Deuwch etifeddion sylwedd, Gorfoleddwn yn Nuw cun; Darfu'r gauaf, daeth yr haf-ddydd, Efengyl dirion Mab y dyn: Eneidiau caethion o'u carcharau A'u cadwynau'n myn'd yn rhydd; Y ddraig a'i teulu'n cael eu maeddu, Efengyl Iesu bia'r dydd. Cadpen mawr fy iechydwriaeth, Welaf yn y frwydr hon, Holl elynion ei ddiweddi Yn gorfod plygu ger ei fron: Plant afradlon sy'n d'od adref, Oedd ymhell o dir eu gwlad; Rhai fu fudion sy'n clodfori Duw am iachawdwriaeth rad. Mae'r addewid wedi cerdded Yn fore o du Had y wraig, Cānt hwy sathru ar 'sgorpiynau, Cryfdwr a chyfrwysdra'r ddraig; Hi ga'dd ar rai ei chyflawni, Tyred etto Iesu mawr, Rho dy allu im' orchfygu Yr holl ddrygau s'ar y llawr. Galw etto ā dy gariad Luoedd o'r tywyllwch mawr, 'Rwyt yn Gyfaill cywir ffyddlon, I drueiniaid gwael y llawr; Gwell ym mhob rhyw gyfyngderau Nā gwrthddrychau goreu'r byd, Nef wrth fyw a nef wrth farw, Nefoedd wyt i bara o hyd.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo, 1764. gwelir: Cadpen mawr fy iechydwriaeth[Mesur: 8787D] |
Come ye heirs of substance, Let us rejoice in God the Lord; The winter passed away, the summer-day came, The tender gospel of the Son of man: Captive souls from their prisons And their chains going free; The dragon and his family getting beaten, The gospel of Jesus owns the day. The great Captain of our salvation, I see in this battle, All the enemies of his betrothed Having to bow before him: Prodigal children are coming home, Who were far from the land of their country; Some who were mute are extolling God for free salvation. The promise has walked In the morning from the side of the Seed of the woman, They get to trample on scorpions, The might and craftiness of the dragon; It got fulfilled over some, Come again, great Jesus, Give thy power for me to overcome All the evils there are on the earth. Call again with thy love Host from the great darkness, Thou art a true, faithful Friend, To poor wretches on the earth; Better in every kind of straits Than the best objects of the world, Heaven with living and heaven while dying, Heaven thou art to endure always.tr. 2019 Richard B Gillion |
|